Cymuned yn Sweden yn pleidleisio o blaid Cyfleuster Gwaredu Daearegol

0
485

Ar 13 Hydref, pleidleisiodd Cyngor Dinesig Östhammar yn Sweden o blaid derbyn yn ffurfiol yr ystorfa danddaearol derfynol ar gyfer tanwydd niwclear sydd wedi cael ei ddefnyddio.

Mae’r gymuned wedi dangos cefnogaeth gref i’r cyfleuster drwy gydol y broses ddatblygu. Yn gynharach eleni, nododd 82 y cant o’r ymatebwyr cymunedol i’r pôl blynyddol ym Mwrdeistref Östhammar eu bod o blaid cynlluniau SKB i adeiladu’r ystorfa derfynol yn Forsmark.

Mae’r penderfyniad terfynol bellach yn nwylo Llywodraeth Sweden, a dyma’r pwynt penderfynu olaf sy’n weddill cyn i SKB gael y drwydded adeiladu ar gyfer eu hystorfa.

Dywedodd Johan Dasht, Prif Swyddog Gweithredol SKB, “Mae’n braf iawn yn wir bod Cyngor Dinesig Östhammar wedi gwneud y penderfyniad hanesyddol hwn. Mae hyn yn gwbl hanfodol er mwyn ei gwneud hi’n bosibl i Sweden gymryd y cyfrifoldeb terfynol am y gwastraff ymbelydrol a gynhyrchwyd gan ein cenhedlaeth.”

Cydnabyddir yn rhyngwladol mai cyfleuster gwaredu dwfn parhaol yw’r ffordd fwyaf diogel a sicr o reoli gwastraff gweithgaredd uwch yn y tymor hir. Mae gwledydd ledled y byd yn bwriadu cael gwared ar eu gwastraff gweithgaredd uwch fel hyn. Yn ogystal â Sweden, mae Canada, y Ffindir, Ffrainc a’r Swistir ymhell ar y blaen i’r Deyrnas Unedig o ran gweithredu.

Yn y Deyrnas Unedig, mae RWM yn bwriadu gweithio mewn partneriaeth â nifer o gymunedau o bob cwr o’r wlad i archwilio sut gall Cyfleuster Gwaredu Daearegol yn eu hardal ddarparu buddion economaidd a chyflogaeth hirdymor a chwarae rhan fawr yn eu cynlluniau datblygu.

Mae’r gwaith chwilio am gymuned letyol yn broses ledled y Deyrnas Unedig, yn seiliedig ar gydsyniad, ac mae’n cynnwys ymchwiliadau manwl i sicrhau bod safle addas ar gyfer adeiladu Cyfleuster Gwaredu Daearegol diogel.

Darganfyddwch fwy yma.

LEAVE A REPLY

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.